Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid yw 'dichonoldeb' yn air hawdd i'w yngan yn Gymraeg nag yn Saesneg, ond mae'n fraint gen i gyflwyno'r ddadl yma a dathlu'r ffaith ein bod ni'n genedl sy'n gyforiog o hanes a diwylliant, ble mae ein hanes a'n treftadaeth ni yn elfennau pwysig yn ein cymeriad fel cenedl. Ac, o ganlyniad i hynny, mae'r ffordd yr ydym ni yn cyfleu ein hunain drwy gelf a chwaraeon bob amser yn fater trafodaeth yn ein plith ni.
Yn yr achos yma, mi fu'r ymgynghorwyr ar gyfer y ddwy astudiaeth yma yn gweithio am flwyddyn, a mwy na hynny, ac mae'r adroddiadau terfynol bellach wedi'u cyhoeddi, ac rydw i wedi cael cyfle i'w hastudio nhw. Mi fyddaf i'n cyfeirio ar rai o'r prif argymhellion, ond beth rydym ni'n ceisio amdani ydy nid chwilio am atebion hawdd na sydyn, ond rhoi cyfle i bobl gyfrannu i'r drafodaeth, ac mae'r ddadl yma yn amser y Llywodraeth yn rhan o hynny.
Rydym ni am geisio sicrhau—a dyma ydy'r prif amcan—fod pobl Cymru yn cael gafael ac yn gallu cymryd rhan a mwynhau ein celf a diwylliant byrlymus, a'n bod ni'n cynyddu'r gyfranogaeth honno. I'r pwrpas yma, fe ymgynghorwyd â rhanddeiliaid o bob math—arbenigwyr yn eu maes, pobl â diddordeb arbennig mewn amgueddfeydd a chelf—ac mae'r argymhellion yn y ddau adroddiad yn deillio o'r trafodaethau hynny.
I edrych yn gyntaf gyda'r astudiaeth chwaraeon, amgueddfa bêl-droed genedlaethol oedd symbyliad cychwyn yr astudiaeth yma yn wreiddiol, ond, yn fuan iawn, fe ledwyd y briff yn ehangach i ystyried treftadaeth chwaraeon o bob math, ond bod pêl-droed yn parhau yn elfen ganolog yn yr argymhellion. Felly, mae'n bwysig ein bod ni yn cofio am yr ystod o gemau hanesyddol a oedd yn cael eu chwarae yng Nghymru, yn sail i'r gemau modern megis rygbi a phêl-droed a snwcer a bocsio, heb anghofio am bwysigrwydd y cynnydd sylweddol mewn pêl-rwyd ymhlith menywod, a'r diddordeb byw a newydd, oherwydd llwyddiant pobl fel Geraint Thomas, mewn beicio ac yna athletau a nofio yn ogystal. Mae gennym ni sêr yn y byd chwaraeon, ac mae'r sêr yr un mor bwysig ag yw cyfranogaeth y boblogaeth yn gyffredinol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi canfod yn y trafodaethau rwyf i wedi eu cael gyda'r adran sy'n gyfrifol am y maes yma yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yna fwy o ddiddordeb gennym ni yng Nghymru—ac mae polisi'r Llywodraeth yn adlewyrchu hynny—mewn cynyddu cyfranogaeth a llai o bwyslais, o bosib, ar gyfrif medalau. Ac rydw i'n meddwl bod hynny yn beth iach.