Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Efallai nad yw hi'n ymwybodol o hyn. Mae rhywfaint o waith yn cael ei wneud eisoes yn sgil Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe yn ceisio edrych ar ddulliau eraill o ariannu yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar bwrs y wlad. Felly, pe bai hynny'n bosibl, a'n bod ni'n gallu mynegi'r uchelgais o leiaf, a fyddai hi'n cefnogi dod o hyd i ffyrdd eraill o gyflawni'r un nod?