Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Rwy’n croesawu adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth. Mae’r adroddiad yn drylwyr, mae’n onest ac mae’n gosod, a dweud y gwir, y gorolwg gorau sydd wedi bod ers degawdau ynglŷn â’r celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mae’n cynnig model creadigol, arloesol i greu canolbwynt a ffocws newydd ar gyfer y celfyddydau gweledol gyda sefydliad cenedlaethol yn graidd iddo. Mae’n graff, yn ysbrydoledig ac yn gynhwysfawr, ac mae’n gofyn am ddewrder ynglŷn â’r weledigaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yng Nghymru.