Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Diolch. Dim ond ar y pwynt hwnnw nad oes gan y Llywodraeth strategaeth gwrth-dlodi, er gwaethaf galwadau gan y pwyllgor ddwywaith, dair gwaith, pa mor siomedig ydych chi ein bod yn dal i fod heb y strategaeth gwrth-dlodi honno ac nad ydym ni, mewn gwirionedd, hyd yn oed yn gwybod yn union pwy yw'r Gweinidog Cabinet sy'n gyfrifol am atal tlodi ar draws y Llywodraeth? Roeddwn i'n meddwl mai Ken Skates oedd hwnnw, ond bellach mae'n bob un ohonoch chi. Felly, pwy mewn gwirionedd sy'n gyfrifol yn y pen draw?