Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Pe byddai'n gwlad ni yn un wirioneddol waraidd, mi fyddai'r datganiad yma gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig dros dlodi difrifol yn cael ei weld fel moment i'n deffro ni unwaith ac am byth, rydw i'n meddwl. Mi ddylai gael ei weld fel mater o warth a chywilydd bod gwladwriaeth mor gymharol gyfoethog â'r Deyrnas Unedig yn cael ei rhoi ar restr o wledydd sy'n cael eu cydnabod fel rhai sy'n methu ag edrych ar ôl eu mwyaf tlawd, eu mwyaf bregus. Ond mae gen i ofn mai'r awgrym clir o'r ymateb sydd wedi bod i'r datganiad yma ydy nad ydy diwylliant gwleidyddol y wladwriaeth yma cweit mor waraidd ag y byddem ni'n licio meddwl ei fod o.
Beth am i mi dreulio ychydig funudau yn siarad mewn iaith efallai y bydd pobl yn ei deall, sef arian? Nid am y tro cyntaf heddiw, mi wnaf i grybwyll llymder. Rydym ni'n clywed y Ceidwadwyr yn dadlau, onid ydym, bod llymder a thoriadau i'r wladwriaeth les wedi bod yn gwbl anochel, wedi bod yn angenrheidiol am resymau economaidd. Nid oedd o'n rhywbeth yr oedden nhw eisiau ei wneud, ond mi oedd yn rhaid. A beth allai fod o'i le, wedi'r cyfan, ar daro'r 20 y cant tlotaf mor galed oherwydd problemau efo rheoleiddio yn y sector ariannol?
Ond hyd yn oed os ydych chi'n derbyn nad oedd yna ddewis ond cwtogi ar wariant cyhoeddus dros y degawd diwethaf, wel, mae polisïau Llywodraeth ganolog Brydeinig wedi bod yn fethiant llwyr. Mae'r Joseph Rowntree Foundation, er enghraifft, wedi amcangyfrif bod tlodi yn costio rhyw £78 biliwn y flwyddyn i'r Deyrnas Unedig mewn mesurau i ymateb i neu i geisio lliniaru effeithiau tlodi. Ac nid yw hynny'n cynnwys costau taliadau'r wladwriaeth les. Mae £1 o bob £5 sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn gwneud i fyny am y ffordd y mae tlodi wedi niweidio bywydau pobl. Mae Crisis wedi modelu cost digartrefedd ac yn amcangyfrif, os ydy'r Deyrnas Unedig yn parhau i adael i ddigartrefedd ddigwydd, i bob pwrpas, fel y mae o ar hyn o bryd, yn hytrach na cheisio cael gwared ohono, bydd gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod gwario £35 biliwn yn ychwanegol.
Meddyliwch am yr incwm sy'n cael ei golli o ran enillion y dyfodol i bwrs y wlad o blant yn tyfu mewn tlodi ac yn methu â chyrraedd eu potensial, a'u rhieni'n defnyddio banciau bwyd, ac yn mynd i ysgolion sydd ddim yn cael eu cyllido'n iawn ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, beth rydym ni'n ei weld sydd o berthnasedd arbennig i ni ydy bod Cymru yn cael ei tharo yn anghymesur. Yng Nghymru mae'r lefelau uchaf o dlodi cymharol yn y Deyrnas Unedig, efo bron iawn i un o bob pedwar person yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae tlodi mewn gwaith wedi tyfu dros y ddegawd ddiwethaf. Er bod cyfraddau cyflogaeth wedi cynyddu, beth sydd gennym ni ydy swyddi sydd ddim digon da. Mae chwarter swyddi—rwyf wedi gweld ffigurau—o dan y lleiafswm cyflog. Beth mae hyn yn ei ddweud ydy bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ddrutach i'w rhedeg na'r cyfartaledd Prydeinig o ran mynd i'r afael ag effaith tlodi. Nid yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i hyn yn amlwg ddim yn gweithio. Mi wnaf i eich annog chi i ddarllen tystiolaeth Victoria Winckler o'r Bevan Foundation i'r Pwyllgor Cyllid ar 25 Hydref, lle roedd hi'n edrych ar y gyllideb ac yn methu â gweld lle roedd y gyllideb yma'n dangos arwyddion o strategaeth glir i fynd i'r afael â thlodi.
Y ni yng Nghymru, y ni ar y meinciau yma, rydym ni'n gofyn pam byddem ni, pam y byddai unrhyw un, yn dymuno bod yn rhan o undeb sy'n gwneud hyn i ni, ac yn gwirfoddoli i adael i bethau fel gweinyddiaeth y wladwriaeth les aros yn San Steffan. Mae pobl Islwyn, ie, fel rhannau eraill o Gymru, yn methu ag edrych tuag at Lywodraeth Cymru sy'n ceisio defnyddio, ceisio cael, y levers a fyddai'n gallu lliniaru effeithiau caletaf y polisïau sy'n cael eu dilyn gan Lywodraeth Geidwadol greulon yn San Steffan. Mae Llafur yn y fan hyn yn methu â chwilio am y pwerau hynny.
Fel rydym ni'n ei weld, rydym ni'n gweld mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma erbyn hyn y camau hynny'n cael eu cymryd yng Ngogledd Iwerddon, yn yr Alban. Mae'n amser i ni yng Nghymru ddweud bod yn rhaid i ni geisio yr arfau hynny, bob un ohonyn nhw, a allai fod o fewn ein cyrraedd ni, i fynd i'r afael â'r tlodi sydd yn ein cywilyddio ni fel cenedl. Nid yw Plaid Cymru yn gofyn am y pwerau er mwyn eu cael nhw; rydym ni'n gofyn am y pwerau oherwydd bod pobl yn marw ac yn cael eu cloi mewn tlodi.