7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:40, 27 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, fe wnaethon nhw yn yr Alban, ac nid wyf i'n clywed unrhyw Aelodau Llafur yn dadlau na ddylai gweinyddu'r system cyfiawnder troseddol gael ei datganoli dim ond rhag ofn na fydd Llywodraeth San Steffan yn trosglwyddo'r arian sy'n gysylltiedig â hynny. Rydych chi'n dadlau dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol ar y sail y bydd yr arian hwnnw yn dod, felly dylech ddadlau dros ddatganoli lles a gweinyddu budd-daliadau hefyd.

Rydym ni i gyd yn gwybod ers cryn amser bod pobl yn ein cymunedau yn dioddef, ac maen nhw'n dioddef yn arw iawn, ac mae'r adroddiad hwn nawr yn rhoi tystiolaeth inni o hynny. Yn ei adroddiad, mae adroddwr y Cenhedloedd Unedig yn nodi'n eithaf clir y gall Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth am hynny, hefyd. Felly, yn hytrach nag aros i dlodi yng Nghymru waethygu hyd yn oed yn fwy, a bydd yn gwneud hynny os na fyddwn yn cymryd camau gweithredu, dyma'r cyfle i weithredu, ac mae'r adroddiad hwn yn rhoi inni'r dulliau sydd eu hangen arnom i wneud hynny.