7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 6:21, 27 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae adroddiad adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol yn y Deyrnas Unedig yn agoriad llygaid. Mae gwir effaith agenda cyni y Llywodraeth Dorïaidd hon yn amlwg i bob un ohonom ei gweld. Mae'n ddewis gwleidyddol sy'n rhoi'r baich mwyaf ar y rhai hynny â'r lleiaf o allu i ymdopi ag ef, ac yn gorfodi pobl i dlodi. Rwy'n annog Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i ddarllen adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn ofalus. Mae angen gwrando ar brofiadau bywyd pobl yn ein cymunedau sy'n dioddef oherwydd diwygiadau lles bondigrybwyll neu arferion gwaith annheg.

Yn ganolog i'r cyflwyniad anhrefnus ac effaith hyn mae credyd cynhwysol. Mae'r polisi creulon hwn yn cynnwys dulliau, fel y nodwyd gan bob plaid, i eithrio pobl o'r system les, ac mae'n achosi llawer o ddioddefaint i bobl ledled y DU, gan gynnwys llawer o'm hetholwyr i yn Islwyn. Mae'n rhaid rhoi terfyn arno ar unwaith. Mae hyd yn oed yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau blaenorol, Esther McVey, wedi cyfaddef y bydd rhai o'r teuluoedd tlotaf, fel sydd wedi'i nodi eisoes, £200 yr wythnos yn waeth eu byd. Teuluoedd sydd eisoes yn byw mewn tlodi truenus yn sgil asesiadau PIP yn methu, tynnu'n ôl gredydau treth, y dreth ystafell wely a thaliadau sengl i rieni unigol, fel y dywedodd Helen Mary, yn gwaethygu cam-drin domestig a thrais teuluol—polisi wreig-gasaol yr wyf innau hefyd yn credu iddo gael ei greu gyda'r bwriad hwnnw. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i liniaru'r polisïau hyn, mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn amlygu ac yn datgan:

ei bod yn warthus bod angen i weinyddiaethau datganoledig wario adnoddau i amddiffyn pobl rhag polisïau Llywodraeth.

Yn wyneb yr heriau hyn, dywed yr adroddwr arbennig fod:

Llywodraeth Cymru wedi newid ei phwyslais yn benderfynol i gynyddu ffyniant economaidd a chyflogaeth fel y porth i leihau tlodi.

Mae'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull Llywodraeth gyfan o leihau tlodi. Yr unig ffordd o roi terfyn ar y trallod hwn, a achoswyd gan gredyd cynhwysol creulon y Torïaid, yw ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Mae rhai yn y Siambr hon a fydd yn ymgyrchu dros ddatganoli lles, fel yr ydym wedi clywed. Ond rwy'n eu rhybuddio bod hyn yn wystl ffawd, o ystyried achosion blaenorol pan ofynnwyd i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am reolaeth weinyddol cynlluniau lles heb y gyllideb gysylltiedig. Mae gwasanaethau rheng flaen yr Alban £266 miliwn ar eu colled o ganlyniad i hyn. Nid oes gan Weinidogion a'r bobl y ffydd y byddai Llywodraeth Dorïaidd y DU yn trosglwyddo cyllideb deg ochr yn ochr â throsglwyddo cyfrifoldeb dros reoli gweinyddol y budd-daliadau lles, ac nid oes gen innau ychwaith. Mae'r Alban, fel y dywedais, wedi gorfod tynnu'r arian hwnnw yn ôl oddi wrth wasanaethau rheng flaen—oddi wrth rhai sydd fwyaf ei angen .

I gloi, Dirprwy Lywydd, nid yw'n iawn bod plant yn llwglyd yn un o economïau cyfoethocaf y byd. Mae cyni yn wir yn ddewis gwleidyddol ac yn un sydd, fel y dengys yr adroddiad hwn, yn niweidio'n anghymesur y rhai hynny â nodweddion gwarchodedig—menywod, plant, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, rhieni sengl a'r rhai hynny ag anableddau—ac yn effeithio'n anghymesur ar y rhai hynny sy'n agored i niwed. Er bod y Llywodraeth Lafur Cymru hon wedi gwneud llawer i godi pobl allan o dlodi, mae'r adroddiad hwn yn atgoffa pob un ohonom am effeithiau anfaddeuol polisïau creulon Llywodraeth y DU, ac ni ellir gweld ei ddiwedd. Mae'n amser am etholiad cyffredinol. Mae'n bryd rhoi terfyn ar gredyd cynhwysol, a therfyn hefyd ar ymddygiad gwarthus y cwmnïau mawr rhyngwladol fel Atos a Capita ymysg eraill sydd wedi ei gynnal. Diolch.