Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn ichi am yr ymyriad yna. Wrth gwrs, Llywodraeth y DU a diddymodd y gronfa byw'n annibynnol, ac yna ceisiodd Llywodraeth Cymru gefnogi pobl a oedd eisoes yn derbyn arian o'r gronfa honno. Ond mae hon yn enghraifft o sefyllfa, os oes gennych chi'r swm hwn o arian ac nad ydych chi ond, mewn gwirionedd, yn caniatáu i'r bobl hynny sydd ar y budd-dal hwnnw, neu sy'n derbyn y budd-dal hwnnw, i barhau arno, yna mae gennych chi system ddwy haen ar gyfer pobl anabl yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth na fyddem ni eisiau ei gefnogi. Dylai pobl allu cael eu hanghenion wedi'u bodloni, a'u bodloni'n dda, drwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a'r darpariaethau y bydden nhw'n eu derbyn o dan honno.
Felly, mae cynnig a gwelliannau'r Ceidwadwyr yn galw am dargedau a dangosyddion perfformiad clir i fesur cynnydd o ran trechu tlodi. Bydd y dangosyddion cenedlaethol, sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn helpu i fesur ein cynnydd fel gwlad tuag at gyflawni'r saith nod llesiant. Bydd llawer o'r dangosyddion hyn yn ein helpu i asesu'r cynnydd o ran trechu tlodi. Bydd y rhain yn mesur, er enghraifft, tlodi cymharol, amddifadedd materol, lefelau cyflogaeth a ffyrdd o fyw iach, ymhlith pethau eraill. Yn ogystal â hyn, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu cerrig milltir cenedlaethol a fydd yn dynodi graddfa a chyflymder y newid sydd ei angen os ydym ni am gyflawni'r saith nod erbyn 2050.
Felly, Llywydd, fel yr ydym wedi'i nodi yn ein gwelliant ein hunain, rydym yn gweithio'n galed i liniaru effaith waethaf camau cyni parhaus Llywodraeth y DU, tra bod angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael ar frys â'r diffygion sylfaenol yr ydym ni wedi eu nodi yn y credyd cynhwysol.