Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Wel, rydym yn cyflwyno amrywiaeth o welliannau i wasanaethau ym Mhont-y-clun, gan gynnwys lleihau amseroedd teithio, trenau pedwar cerbyd newydd a chynyddu amlder gwasanaethau ar ddydd Sul. Rydym yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ystyried ymestyn y metro, gan gynnwys i Bont-y-clun—yn amodol, wrth gwrs, ar gyllid ac achos busnes cryf.