Gwasanaethau Trên o Bontyclun i Gaerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:11, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o allu dweud, o ganlyniad i'r cytundeb rhyngom â KeolisAmey, ein bod yn mynd i gyflogi 600 yn fwy o bobl. Mae hwnnw'n ffigur eithaf sylweddol. Hefyd, rydym yn mynd i gyflwyno peiriannau tocynnau nad ydynt yn defnyddio arian ym mhob gorsaf ar draws ardal masnachfraint Cymru a'r gororau, a byddwn hefyd yn cydnabod ymhellach yr heriau a wynebir ar hyn o bryd gyda'r orsaf benodol a nododd yr Aelod yn ei gwestiwn. Ond bydd pob gorsaf yn cael buddsoddiad ac yn cael ei huwchraddio o ganlyniad i'r £200 miliwn y byddwn yn ei fuddsoddi mewn gorsafoedd ar draws llwybrau Cymru a'r gororau.