Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn a hefyd am y cyfle i siarad ag ef yn uniongyrchol ynglŷn â'r ddau fater a gododd yn ei gwestiwn? Rwy'n falch o ddweud bod croesfan Pencoed wedi cael sylw amlwg yn y trafodaethau a gefais gyda chadeirydd Network Rail, Syr Peter Hendy, y bore yma, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ateb i'r mater penodol hwn, a defnyddio nid yn unig adnoddau Network Rail, ond hefyd y gronfa trafnidiaeth leol y credaf y bydd yn hollbwysig wrth geisio dod o hyd i ateb yno.
Nawr, o ran y capasiti ar y trenau dau gerbyd, rwy'n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelod, gyda chyflwyno'r trenau pedwar cerbyd erbyn ddiwedd 2022—a gadewch inni gofio mai trenau newydd fydd y rhain—y bydd nifer y seddi a fydd ar gael ar y trenau'n codi o 120 i 204, gan gynyddu capasiti'n sylweddol ar y gwasanaeth hwnnw.