Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Diolch i chi, mae hynny'n galonogol iawn. Fel y gwyddoch rwy'n siŵr, mae yna broblemau mawr ynglŷn ag amlder y trenau sy'n stopio, yn enwedig ym Mhont-y-pŵl, gan achosi heriau mawr i gymudwyr sy'n gorfod gyrru i Gwmbrân i gael trên oddi yno. Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth rheolaidd o Gaerdydd i Fanceinion yn pasio drwy Bont-y-pŵl ac yn mynd yn ei flaen i'r Fenni. A wnewch chi drafod hyn gyda Trafnidiaeth Cymru a gweld pa newidiadau y gellir eu gwneud ar frys i roi blaenoriaeth i sicrhau bod mwy o drenau'n stopio ym Mhont-y-pŵl?