Dyletswyddau Awdurdodau Cynllunio Lleol

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:19, 28 Tachwedd 2018

Diolch yn fawr am yr ateb yna, ond, yn sicr, bydd pob Aelod yn y Siambr yma wedi derbyn cwynion ar ryw adeg neu'i gilydd gan drigolion lleol am nad oeddent yn ymwybodol o gais cynllunio a oedd wedi'i gyflwyno i'r awdurdod lleol. Yn aml, erbyn iddynt ddod i wybod amdano, mae'r penderfyniad eisoes wedi'i wneud. Fel arfer, mae'r awdurdod lleol wedi rhoi'r rhybudd ar ryw bostyn lamp anghysbell ac yn ystyried bod hyn yn ddigonol o ran ymgynghoriad cyhoeddus. Yn syml, mae llawer yn teimlo bod y rhwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau lleol i ymgynghori ar geisiadau cynllunio yn rhy wan. Felly, a ydych chi wedi cynnal trafodaethau ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y mater hwn, ac a ydych chi'n credu bod angen darpariaeth gyfreithiol ychwanegol i sicrhau bod ymgynghori priodol, yn enwedig â thrigolion cyfagos, ac yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn digwydd?