2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2018.
5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o benderfyniad y Goruchaf Lys i wrthod apêl gan Lywodraeth y DU yn achos Wightman? OAQ53011
Mae'r achos yn codi cwestiwn pwysig am y posibilrwydd, neu fel arall, o ddiddymu erthygl 50, a ddylai gael ei ateb, er mwyn sicrhau y gellir gwneud penderfyniad deallus ar y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol ar y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, neu o ganlyniad i argyfwng 'dim bargen'.
Diolch i chi am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, efallai, clywyd yr achos yn Llys Cyfiawnder Ewrop yr wythnos hon mewn gwirionedd, ac rydym bellach yn aros am y penderfyniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop. A ydych wedi gwneud trefniadau gyda'ch cymheiriaid yn y gwledydd eraill i gael trafodaeth ar ganlyniad yr achos hwnnw eto, oherwydd, fel rydych wedi'i ddweud, mae'n rhoi'r sefyllfa gyfreithiol ar y posibilrwydd o ddiddymu erthygl 50? Ac o ystyried y llanastr rydym ynddo ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU, a'r anhrefn a allai ddilyn ymhen pythefnos, pan yw'n debygol y bydd y bleidlais yn pennu na fydd y fargen hon yn cael ei derbyn, a wnewch chi gyfarfod â'ch cyd-Weinidogion felly i edrych ar ba bosibiliadau a fyddai ar gael i ymestyn neu ddiddymu erthygl 50 os yw'n barnu o blaid hynny, fel y gallwn barhau i negodi mewn gwirionedd, fel y gallwn sicrhau bargen sy'n addas i Gymru yn hytrach na bargen sy'n addas i Theresa May?
Wel, mae'r Aelod yn gywir—clywodd Llys Cyfiawnder Ewrop y cyfeiriad hwn fore ddoe, mewn gwrandawiad a barodd bedair awr, gyda phob un o'r 28 ustus yn clywed y mater. Yn amlwg, mae'n bwynt arwyddocaol iawn. Fel y mae'n digwydd, safbwynt Llywodraeth y DU yn yr ymgyfreithiad hwnnw yw mai mater damcaniaethol yw hwn, oherwydd nid oes bwriad ganddynt i'w ddiddymu, ac mae cwnsleriaid ar ran yr UE wedi gwneud y sylw nad oes posibl diddymu erthygl 50 heb gytundeb y 27 Aelod arall.
Mae'n gofyn am drafodaethau rhwng y Llywodraethau. Fel y bydd yn ei sylweddoli, mae trafodaeth ar y gweill ynghylch goblygiadau'r holl ddatblygiadau cyfreithiol ar hyn o bryd. Buaswn yn dweud y byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU ystyried yn ofalus iawn cyn gweithredu i ddiddymu erthygl 50. Safbwynt Llywodraeth Cymru oedd y dylai'r ffocws fod ar ffurf yn hytrach na ffaith Brexit, a dyna yw ei safbwynt o hyd. Ond wrth i ni nesáu at yr hyn sy'n broses seneddol hynod o ansicr, a'r cyfle yn y Siambr hon i drafod a mynegi barn ar y negodiadau a'r cytundeb a gyrhaeddwyd hyd yma, mae'n ymddangos i mi ei bod yn bwysig sicrhau cymaint o eglurder â phosibl, a chymaint o bwyntiau sefydlog â phosibl, yn y drafodaeth honno. Ac felly, rwy'n croesawu'r cyfle i'r llys cyfiawnder roi eglurder ar y pwynt hwn.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.