Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:44, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ni fydd arian y loteri'n cael ei golli, os yw'n bosibl i'r loteri ddarparu estyniad o ran amser, ond ni allaf fi gyhoeddi unrhyw beth i'r perwyl hwnnw y prynhawn yma. Rwy'n falch eich bod yn mynd i'r llyfrgell genedlaethol ac rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu cael atebion pellach ar y mater hwn. Croeso i chi gael pob gohebiaeth rhyngof fi a'r llyfrgell ac unrhyw wybodaeth bellach gan swyddogion yn fy adran, yn ogystal â'r hyn y bydd adran ymchwil Comisiwn y Cynulliad yn gallu ei roi.