5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwerthu Cymru i'r Byd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:14, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu adroddiad y pwyllgor yn fawr iawn? Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a'u gwaith caled wrth lunio'r adroddiad a'i argymhellion. Rwy'n credu o ddifrif fod ymgysylltiad a chyflawniad rhyngwladol yn rhan hanfodol o'n hagenda i dyfu economi Cymru.