Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu’r gloch.
Rydw i'n symud i’r bleidlais, a’r bleidlais honno ar ddadl Plaid Cymru ar y taliadau uniongyrchol ar gyfer ffermwyr. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 21, un yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly, gwrthodwyd y cynnig.