Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Nawr, yn naturiol, mae mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn un o amcanion datganedig eich Llywodraeth chi. Fodd bynnag, mae toriadau ariannol gan eich Llywodraeth i awdurdodau lleol yn golygu bod cynghorau ar draws Cymru yn ei chael hi'n fwyfwy anodd diogelu gwasanaethau rheng-flaen, fel gwasanaethau cymdeithasol pobl hŷn. Rydym ni'n clywed am gau canolfannau dydd, unigolion yn wynebu taliadau uwch am wasanaethau, gostyngiadau yn y ddarpariaeth pryd ar glud, a lleihad mewn gwasanaethau cyfeillio. Pryd fydd eich geiriau cynnes chi, felly, fel Llywodraeth ar fynd i'r afael ag unigrwydd yn trosglwyddo yn ymrwymiadau cadarn ar ffurf arian i'n llywodraeth leol?