Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Nid wyf i'n anghytuno â'r aelod. Mae tai gwarchod, fel y dywed, yn ddull sydd wedi'i hen sefydlu o ymdrin â thai ar gyfer pobl hŷn, ond mae'n un o gyfres o ymyraethau a llety sy'n bosibl. Un o ddibenion gwneud y gwaith ymchwil yw i wneud yn union hynny. Ac, mewn gwirionedd, yn fwy cyffredinol yn y Llywodraeth, rydym ni'n edrych yn gyffredinol ar yr hyn y gall ein cyfresi data ei ddweud wrthym ni o ran eu defnyddio ar gyfer cynllunio gwasanaethau yn well, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r ymagwedd wrth symud ymlaen.