Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau da yn y fan yna. Ers 2002, gyda chymorth £187 miliwn, cwblhawyd 43 o gynlluniau gofal ychwanegol, gan ddarparu dros 2,000 o gartrefi ar gyfer pobl hŷn, lle gallant gynnal eu hannibyniaeth ac osgoi'r angen i symud i ofal preswyl neu gael eu derbyn i'r ysbyty. Rydym ni hefyd yn buddsoddi £105 miliwn o gyfalaf yn y gronfa gofal integredig i ddatblygu atebion a arweinir gan lety i iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hynny'n cynorthwyo pobl hŷn i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cymunedau, a, bob blwyddyn, rydym ni'n buddsoddi £106 miliwn i gynorthwyo awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i wella ansawdd y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru drwy safon ansawdd tai Cymru.
Yn benodol, fodd bynnag, mae'r Aelod yn sôn am ddatblygiadau technolegol sydd o ddiddordeb. Mae gennym ni nifer o gynlluniau ledled Cymru, yr wyf i wedi cael y fraint o fynd i'w gweld, gan ddefnyddio rhywbeth o'r enw technoleg LoRaWAN, sy'n caniatáu i chi gasglu data—gyda chaniatâd y tenant, yn amlwg—ar bethau fel pa un a yw'r goleuadau wedi cael eu troi ymlaen neu a yw tegell wedi ei ferwi ac ati, ac yn caniatáu i chi gael eich hysbysu am y ffaith fod patrwm symud yr unigolyn wedi newid ac, felly, gall rhywun alw yn gyflymach o lawer na phe byddech chi ddim ond yn gwneud hynny fel archwiliad mater o drefn. Felly, mae rhai o'r cynlluniau yr ydym ni wedi eu hystyried wedi gwneud cryn argraff arnaf i hyd yn hyn, ac rydym ni wedi bod yn eu cynorthwyo o'n cyllidebau digidol, a dweud y gwir, i fwrw ymlaen â chynlluniau arloesol o'r fath. Rydym ni'n edrych ymlaen at allu rhoi rhywfaint o'r dechnoleg honno yn y brif ffrwd yn y dyfodol agos iawn.