Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Hoffwn fynd ar drywydd y mater iechyd meddwl, sy'n rhywbeth y bydd arweinydd y tŷ yn gwybod yn iawn fy mod wedi ei godi ar sawl achlysur ers imi gael fy ethol yn gynharach eleni. Y mis diwethaf, fe wnaeth arweinwyr busnes ledled y DU annog Llywodraeth y DU i wneud darpariaethau fel bod swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn orfodol yn y gweithle. Rwyf yn cytuno’n llwyr â’r ymgyrchydd Natasha Devon, y tu ôl i’r llythyr i Lywodraeth y DU pan ddywed hi fod gan gyflogwyr ddyletswydd i ofalu am staff. Yn gwbl briodol, mae hi’n pwysleisio y bydd llwyddiant hefyd yn sicrhau y bydd pob gweithiwr ym mhob man yn gallu cael gafael ar aelod o staff hyfforddedig er mwyn cael cymorth cychwynnol ac arweiniad os ydyn nhw’n ymdrin â materion iechyd meddwl yn y gweithle.
Felly, yn gyntaf, a yw hyn yn rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ystyried ar gyfer gweithleoedd yng Nghymru? Ac yn ail, bu llawer o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar hefyd ar swyddogaeth y gymuned ehangach o ran mynd i'r afael a'r epidemig o afiechyd meddwl ac atal hunanladdiad. Enghraifft o hyn yw elusen prosiect Wave yng Nghernyw, ac maen nhw’n darparu therapi syrffio i bobl ifanc sy'n dioddef oherwydd salwch iechyd meddwl. Ychydig yn nes adref, llwyddais i gael y profiad ac ymweld â Hounds the Barbershop gyda fy nghyd-Aelod Jayne Bryant yng Nghasnewydd yn ddiweddar, ac, yn union fel y siop honno, mae fy marbwr i, Sam—o Sam’s Barbershop yn Sir y Fflint—yn enghraifft wych o farbwr sy'n helpu’r rheiny sy'n dioddef afiechyd meddwl, fel y fi. Felly, rwyf yn canmol pobl fel Sam yn Sir y Fflint a Paul yng Nghasnewydd, mae’r bobl hynny yn cymryd cyfrifoldeb eu hunain i ddarparu gofal bugeiliol i'r rhai sydd mewn angen neu'r rhai sy'n teimlo'n isel, ac, unwaith eto, am atgyfnerthu'r neges honno ei bod hi’n iawn i beidio â bod yn iawn.
Yn olaf, yr ail ddatganiad yr hoffwn ei wybod, yw: a wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi i dalu teyrnged i'r bobl hynny a phob un person allan yna nad ydyn nhw'n gwnselwyr, ond sy’n credu eu bod nhw mewn sefyllfa wych i ofalu am bobl eraill ac am ei gilydd drwy eu hanawsterau yn eu bywydau bob dydd?