Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Byddwch chi'n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yr wythnos diwethaf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar rôl cynghorau cymuned a thref yng Nghymru yn y dyfodol. Yn amlwg, wrth ystyried darpariaeth llywodraeth leol ac unrhyw ddiwygiadau yng Nghymru, mae'r sector yma, y lefel agosaf o ddemocratiaeth i'r bobl, yn allweddol. Byddai llawer yn dadlau bod y sector wedi cael ei anwybyddu dros yr 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli yng Nghymru, gyda braidd dim ffocws a braidd dim newid. Nawr, mae'r panel adolygu annibynnol wedi cynnig set o argymhellion, rhai ohonynt, o bosib, yn bellgyrhaeddol, yn enwedig o ran pwerau, ymgysylltu ac atebolrwydd. Rydw i'n credu bod angen trafodaeth bellach arnynt yn y lle yma. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, felly, ddatganiad llafar ar y mater, a fyddai'n rhoi amser inni drafod ac i ddatblygu'r ffordd ymlaen?