Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Ie, allwn i ddim cytuno'n fwy gyda'r ymgyrch. Roeddwn yn meddwl bod y Gweinidog tai wedi ei gymeradwyo mewn datganiad clir iawn. Nid landlord yw rhywun yn gofyn am ryw yn hytrach na rhent—troseddwr yw hwnnw. Ni allai fod yn symlach na hynny. Ac, wrth gwrs, rydym yn rhannu eich pryder chi a phryder llawer o bobl eraill bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu rhoi yn y sefyllfa hon, wedi eu sbarduno gan rai o'r materion dyled a drafodais yn gynharach. Ac wrth nesáu at y Nadolig, mae pobl yn arbennig o agored i hynny. Credaf ei bod hi'n bwysig iawn anfon y neges glir iawn honno: bod unrhyw landlord sy'n credu bod hynny'n iawn yn twyllo ei hun. Nid yw'n iawn. Mae'n weithred droseddol, ac nid wyf i'n credu y gallwn ni fod yn gliriach na hynny.
Gwn ein bod ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn sylwi ar unrhyw hysbysebion, er nad yw hynny wedi ei ddatganoli inni. Gwn fod y pryder hwn yn agos iawn at galon y Gweinidog tai, a byddwn yn sicr yn symud amrywiaeth o fesurau ymlaen i weld beth y gallwn ei wneud i ddileu'r arfer cwbl gywilyddus hwn.