Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch, Lywydd, a diolch hefyd i Siân. A gaf fi ddiolch ichi am y trafodaethau adeiladol a gefais gyda chi ar y mater hwn yn flaenorol, a hefyd gyda Llyr? Ac yn sicr mae gennym lawer o gydymdeimlad ag ysbryd y gwelliannau a gynigiwyd ac rydym yn croesawu'r cyfle i gofnodi rhai o'r pethau y gallwn eu gwneud i gyflawni'n union hynny, ac os yw'r Aelodau'n fodlon bod yn amyneddgar, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig amlinellu lle y gallwn fynd â hyn.
Y man cychwyn yw ein bod yn cytuno'n llwyr fod cynyddu argaeledd gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyffredinol yn hanfodol os ydym am gyflawni ein huchelgais ar gyfer Cymraeg 2050, ac mae angen inni ddod o hyd i ffordd o wneud i hyn ddigwydd. Nawr, mae'r gwelliant sydd gennych ychydig yn wahanol o ran y modd y mae wedi ei ddrafftio i'r gwelliant cynharach a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2, ac mae'r ffocws wedi symud ychydig o osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddiwallu anghenion iaith Gymraeg y plant sy'n manteisio ar y cynnig i sicrhau bod pwysigrwydd y Gymraeg yn cael ei ystyried wrth ddarparu gofal plant o dan is-adran 1 y Bil. Nawr, mae hyn yn ddefnyddiol o ran ein cael i drafod hyn yn awr, ond mewn gwirionedd, mae'r gwelliant, o ran y modd y cafodd ei ddrafftio, ychydig yn amwys o ran ei ddiben a'i effaith, ac fe ddof at hynny mewn eiliad. Nid yw'n ddelfrydol fel gwelliant, ond credaf eich bod wedi ei roi yno er mwyn cael y ddadl hon ac rwy'n ei groesawu.
Rwy'n cefnogi'r amcan yn llwyr, a dyna pam y gwerthfawrogais y cyfle i drafod y materion hyn gyda Siân a Llyr. Nawr, buaswn yn awgrymu, fodd bynnag, mai'r ffordd orau o gyflawni'r amcanion hyn yw dod â rhywfaint o egni a ffocws ychwanegol i'r mecanweithiau sydd gennym ar waith yn hytrach na thrwy greu dyletswydd newydd yn y Bil hwn. Nawr, mae gennym ddyletswyddau ar awdurdodau lleol eisoes o ran cynllunio a chyflenwi darpariaeth ar draws y blynyddoedd cynnar. O dan Ddeddf Gofal Plant 2006, rhaid i awdurdodau lleol—ac rwy'n ailadrodd rhaid—roi sylw i anghenion rhieni am ofal plant sy'n ymwneud â'r Gymraeg er mwyn sicrhau bod digon o ddarpariaeth gofal plant yn eu hardaloedd.
Rwy'n mynd drwy rai o'r pethau sydd ar waith cyn symud ymlaen. O dan y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol nodi, yn eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg sut y byddant yn gwella cynlluniau'r ddarpariaeth a safonau addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal. Ond unwaith eto, rydym yn gwybod mai'r gwir amdani yw nad oes digon o gapasiti cyfrwng Cymraeg a dyna pam yr ydym ni fel Llywodraeth yn buddsoddi yn awr, wrth inni siarad, mewn cynlluniau i ehangu'r sector gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn hyfforddiant yn y Gymraeg ar gyfer y sector gofal plant, ac yn bwysig, mewn mwy o gasglu a dadansoddi data ar y galw am fwy o ofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg a'r capasiti i'w ddarparu.
Nawr, drwy weithredu'r cynnig hwn yn gynnar, rydym yn profi ymhellach lle y ceir bylchau, ac o hyn, lle y gallwn geisio gweithio gyda'r sector ac â sefydliadau partner ac ymbarél—nid un yn unig, ond pob un ohonynt—i gynyddu'r capasiti hwn yn y farchnad. Byddwn yn parhau i fonitro bwriad rhiant i ddefnyddio a manteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a byddwn yn ystyried hyn, gyda llaw, ym mlwyddyn 2 y gwerthusiad annibynnol. Mae rhan o hyn yn seiliedig ar yr adborth a gawsom gan aelodau'r pwyllgor ac o'r trafodaethau a gawsom.
Nawr, yn y cyfamser, yn ôl ym mis Medi, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes fod £46 miliwn wedi'i ddyrannu o'r grant cyfalaf addysg cyfrwng Cymraeg a grant cyfalaf y cynnig gofal plant—y ddau ohonynt—i gefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg. Nawr, mae tynnu'r rheini at ei gilydd ac annog darparwyr lleol ac awdurdodau lleol i wneud defnydd ohonynt yn y ffordd gydgysylltiedig honno'n dangos yr ymagwedd draws-Lywodraethol sydd ei hangen arnom er mwyn cyflawni'r amcanion sydd gennym ar gyfer y Gymraeg. Nawr, bydd y grant hwn ar ei ben ei hun yn cefnogi tua 41 o brosiectau mewn 16 o awdurdodau lleol. Bydd yn creu bron i 3,000 o leoedd ysgol a gofal plant ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg, a dyna rydym ei eisiau—llwybr llyfn yr holl ffordd drwodd.
Nawr, yn ôl yn yr haf hefyd, yng ngoleuni trafodaethau yr oeddem yn eu cael, cyhoeddais raglen gyfalaf gwerth £60 miliwn dros y blynyddoedd rhwng 2018 a 2021. Un o nodau allweddol y rhaglen hon yw cefnogi cynlluniau i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn unol â strategaeth Cymraeg 2050.
Fel Llywodraeth—fe sonioch chi, Siân, am y Mudiad Meithrin—rydym hefyd wedi dyfarnu £1 filiwn y flwyddyn yn ychwanegol i'r Mudiad Meithrin dros y ddwy flynedd nesaf i helpu i sefydlu lleoliadau newydd mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn brin, er mwyn llenwi rhai o'r bylchau hynny. Mae'r grŵp cyntaf o leoliadau newydd yn agor yn ystod y flwyddyn academaidd hon, ac rydym wedi ymrwymo i gynnydd o 150 yn nifer y grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf. Ac fel y trafodwyd, gyda llaw, yn ein cyfarfod diweddar, mae'n galonogol iawn gweld niferoedd gynyddol o awdurdodau lleol yn dod ag elfennau gwahanol o gyllid at ei gilydd yn awr ac yn meddwl yn gydgysylltiedig drostynt eu hunain sut y gallant wella ac ehangu gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar mewn ffordd gydgysylltiedig. Byddem yn annog hynny fel Llywodraeth yn y ffordd y trefnwn ein cyllid a'n cynlluniau.
Ond hefyd, mae bwrdd cynghori ar hyn o bryd yn edrych ar gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac mae wedi bod yn ystyried sut i gryfhau'r cysylltiadau rhwng cynllunio darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ac addysg statudol drwy ddefnyddio'r data sy'n deillio o'r asesiadau digonolrwydd gofal plant. Byddaf yn awyddus i weld sut y gellir defnyddio'r data hwn yn effeithiol i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn benodol, credwn fod lle i wneud mwy i sefydlu cyswllt clir rhwng asesiad digonolrwydd gofal plant yr awdurdod lleol a sut y defnyddir y wybodaeth honno i gynllunio ar gyfer addysg gynnar cyfrwng Cymraeg.
Mae'n bwysig—hoffwn gofnodi hyn—fod awdurdodau lleol yn gweld twf yr iaith Gymraeg drwy lens hirdymor, gan ddechrau gyda'r plant ieuengaf. Byddaf yn ystyried ymhellach gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes sut y gallwn annog awdurdodau lleol i ymateb yn fwy gweithredol i'r hyn y mae eu hasesiadau'n ei ddweud wrthynt ynglŷn â bylchau a phroblemau gyda'r ddarpariaeth yn eu hardaloedd o ran y Gymraeg.
Nawr, pe bai gwelliant 7 yn cael ei basio—a dyma lle mae ei amwysedd a'i gulni'n achosi problemau—ni fyddai ond yn ymwneud â'r ddarpariaeth gofal plant o dan y cynnig hwn: hynny yw, gofal plant ar gyfer plant cymwys rhieni sy'n gweithio, fel y disgrifir yn y cynnig. Ni fyddai'n berthnasol i ddarpariaeth gofal plant yn fwy cyffredinol, ac mae hynny'n wendid yn y gwelliant. Gwn nad yw'n wendid bwriadol, ond mae'n culhau'r hyn y dylem anelu i'w wneud gyda gofal plant cyfrwng Cymraeg. Buaswn yn dadlau bod edrych ar y cysylltiadau y gellir eu gwneud rhwng asesiadau digonolrwydd presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn darparu ffordd lawer mwy strategol ymlaen sy'n ehangach ond hefyd yn ddyfnach.
Ac ar y sail honno, a chyda'r sylwadau hynny, buaswn yn annog Siân a chyd-Aelodau'r Cynulliad i weithio gyda ni i nodi a defnyddio'r dulliau mwyaf pwerus a ddisgrifiais yma, nid yn unig i gefnogi ysbryd y gwelliant hwn, sydd ag elfen o amwysedd yn ei gylch, ond i wireddu ein huchelgais gyffredin ar gyfer y Gymraeg wrth inni symud ymlaen. Rwy'n gobeithio bod y sylwadau hynny'n tawelu eich meddwl, Siân, yn ein hawydd i fod yn agored i barhau i weithio ar hyn, i edrych ar beth yr ydym yn ei werthuso wrth gyflwyno'r cynllun, ac i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael inni yn y ffordd yr edrychwn ar y cydgysylltiad rhwng addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg, a'r ffordd y defnyddiwn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a'r ffordd y defnyddiwn ffrydiau cyllido i gymell partneriaid lleol ac awdurdodau lleol i wella ac ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg mewn gwirionedd.