Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un o blith yr Aelodau yn y Siambr hon sy'n gorfod tawelu meddyliau etholwyr ar ôl iddynt gael y llythyr hwnnw gan CThEM nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i godi treth incwm yng Nghymru, oherwydd mae'r llythyr wedi dychryn rhai o fy etholwyr i, yn sicr. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr nad oes unrhyw gynlluniau i godi treth incwm yng Nghymru? Ac er fy mod yn croesawu'r hyn rydych newydd ei ddweud am yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, beth arall sy'n bosibl inni ei wneud i sicrhau y ceir dealltwriaeth dda o'n pwerau treth incwm newydd yng Nghymru?