Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Wel, wrth gwrs, mae Mike Hedges yn llygad ei le. Trethiant yw'r tâl mynediad a dalwn i gymdeithas wâr. Drwy gyfuno'r arian a ddaw drwy drethiant gall pawb ohonom fforddio'r pethau yr ystyriwn ni, o amgylch y Siambr hon, eu bod yn bwysig ym mywydau pobl Cymru. Nawr, pe baech yn dewis torri 1 geiniog oddi ar y dreth yng Nghymru, byddai'r gost gros oddeutu £200 miliwn. Pa rai o'n gwasanaethau cyhoeddus y byddai'n rhaid eu torri, Lywydd, i alluogi hynny i ddigwydd? Ni allwch wneud y math o hud a lledrith economaidd sy'n aml yn cael ei gynnig i ni gan Aelodau ar y meinciau gyferbyn, lle rydych yn torri trethi, fel bod gennych lai o arian, a rywsut eich bod yn dal i allu gwario mwy ar bopeth y maent yn dweud wrthym y byddent yn eu ffafrio.