Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch i'r Aelod am hynny. Mae'r fframwaith cyllidol yn cynnwys lluosydd—mae'n 105 y cant. Credaf fod arweinydd yr wrthblaid wedi awgrymu ddoe ei fod yn 120 y cant, ond mewn gwirionedd mae'n 105 y cant. Am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr, cawn 105 y cant o hynny drwy symiau canlyniadol Barnett. Mae hynny'n cyfateb i £70 miliwn hyd yma ar gyfer Cymru. Gyda'r arian ychwanegol ar gyfer iechyd—[Torri ar draws.] Na—[Torri ar draws.]