Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Roedd yn ddiddorol gwrando ar y bwletinau newyddion bore ddoe, ond siomedig oedd deall bod gwariant mewn gwasanaethau gofal hanfodol ar gyfer pobl oedrannus yn Lloegr wedi'i dorri 25 y cant y pen ers 2010. Nid yw hynny, wrth gwrs, wedi digwydd yng Nghymru, am fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi diogelu'r cyllidebau hynny, ac rwy'n hynod o falch o hynny, ac rwy'n siŵr y byddai pawb am ymuno â mi i ddathlu'r ffaith honno. Ond o fis Ebrill nesaf, bydd cyfran y dreth incwm a delir gan bobl yng Nghymru yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn uniongyrchol. Sut y bydd hynny'n rhyddhau Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach o ran blaenoriaethu'r gwasanaethau rheng flaen hanfodol hyn?