Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond dyma'r gwirionedd: mae Powys yn edrych ar fwlch yn y gyllideb o £14 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae sir Gaerfyrddin wedi gorfod gwneud gwerth £50 miliwn o doriadau ar yr un pryd â chodi ei threth gyngor 22 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae dinasyddion yn sir Benfro yn wynebu cynnydd o 12 y cant yn eu treth gyngor yn y flwyddyn ariannol nesaf yn unig. Nawr, rwy'n sylweddoli bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin â chyllideb anodd a sylweddolaf nad bai Llywodraeth Cymru yw'r ffaith bod y setliad yn dynn, ond does bosibl, o ystyried y ffigurau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, na allwch weld bod yn rhaid bod rhywbeth o'i le ar y ffordd y caiff yr arian ei ddyrannu. Oherwydd os cymharwch hyn â chymunedau mewn ardaloedd mwy trefol yng Nghymru, nid yw'n ymddangos yn gyfartal nac yn deg.