Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Pa drafodaethau a gawsoch gyda phrif weithredwr Cyngor Sir y Fflint ers iddo ysgrifennu at yr holl gynghorwyr yno ar 16 Tachwedd i ofyn iddynt gefnogi'r ymgyrch #CefnogiGalw i gael cyfran deg o gyllid cenedlaethol Cymru, ac a gafodd gefnogaeth unfrydol gan aelodau o bob plaid ar 20 Tachwedd i fynd â'r frwydr, ac rwy'n dyfynnu, 'i lawr i'r adran llywodraeth leol yng Nghaerdydd'?