Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Wel, mae asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'r rhyddhad i brynwyr tro cyntaf wedi dangos na fyddai'n gwneud llawer i helpu prynwyr tro cyntaf, a byddai'n codi prisiau tai ac yn arwain at fawr iawn o bryniannau ychwanegol gan brynwyr tro cyntaf. Felly, nid ydym eisiau ailadrodd rhyddhad nad ystyrir ei fod yn effeithiol. Ac yn wir, mae ein dull o weithredu yn llawer tecach yng Nghymru, oherwydd rydym yn awyddus i gynorthwyo pawb sy'n ei chael hi'n anodd prynu tŷ i wneud hynny. Felly, nid oes rhaid i chi fod yn brynwr tro cyntaf i elwa ar y gostyngiad yn y dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru. Ac mewn gwirionedd, credaf fod hwnnw'n beth teg i'w wneud. Mae pobl yn cael trafferth prynu eu hail dŷ, mae pobl yn cael trafferth symud, a'n dull o weithredu yw helpu pobl sy'n cael trafferth, yn hytrach na phrynwyr tro cyntaf fel grŵp cyfan.