Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Gwn y byddwch yn ymwybodol o ganfyddiadau gan yr Athro Philip Alston, rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar fater tlodi eithafol, ac ymhlith llawer o'i gasgliadau enbyd oedd y ffaith bod toriadau San Steffan wedi effeithio fwyaf ar y tlawd, ar fenywod, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, plant, rhieni sengl a phobl ag anableddau. Dadleuai y byddai gwreig-gasäwr yn ei chael hi'n anodd gwneud mwy. A yw eich Llywodraeth wedi cyflawni asesiad effaith llawn o'ch toriadau i gyllid awdurdodau lleol er mwyn sicrhau nad ydych yn ailadrodd penderfyniadau dideimlad y Torïaid ac yn gwaethygu'r sefyllfa i'r bobl sydd â'r lleiaf yn ein cymdeithas?