Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae bron i flwyddyn ers y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ei newidiadau i'r dreth trafodiadau tir, gan symud y trothwy safonol ar gyfer taliad o £150,000 i £180,000. Pa asesiad a wnaeth eich adran o effaith debygol hyn ar brynwyr tro cyntaf yng Nghymru?