Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Wel, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu graddau a chyflymder adeiladu, ac un o'n hymrwymiadau yn 'Ffyniant i Bawb' oedd gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i wneud hynny. Ac rydym yn gallu gwneud hynny yn awr o ganlyniad i'r cynnydd—neu o ganlyniad i gael gwared ar y terfyn benthyca, y bu Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu o blaid ei wneud ers peth amser. Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod y Cynulliad hwn, a heddiw byddwch wedi sylwi ein bod wedi cyhoeddi 'Polisi Cynllunio Cymru', sy'n amlwg yn ein symud ymlaen, o ran chwalu rhai o'r rhwystrau mewn perthynas â chynllunio. Felly, sicrhau bod adeiladu'n digwydd yn yr ardaloedd sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer cynllunio, yn hytrach na'r hyn a welwn ar hyn o bryd gyda lleiniau o dir yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau datblygu lleol, ac yn codi gwerth y tir hwnnw wedyn, ond heb wneud fawr ddim i wella'r gyfradd adeiladu tai mewn gwirionedd. Felly, buaswn yn dweud bod 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gam pwysig ymlaen o ran gallu chwalu rhai o'r rhwystrau a welwn yn arafu'r broses o adeiladu tai ledled Cymru.