Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:36, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n amlwg nad ydych yn ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud drwy ein rhaglen tai yn gyntaf, a hefyd, drwy'r cynllun gweithredu ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd a gyhoeddwyd y llynedd, a'r ffaith ein bod wedi gofyn i bob awdurdod lleol unigol yng Nghymru gyflwyno cynllun lleihau digartrefedd a chynllun i fynd i'r afael â digartrefedd sy'n canolbwyntio'n benodol ar gysgu ar y stryd. Pan edrychwch ar nifer y lleoedd sydd ar gael, o'i gymharu â nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd, mewn llawer o achosion mewn gwirionedd, mae'r gwelyau ar gael. Ond rwy'n deall nad ydynt yn ddeniadol i'r bobl sy'n cysgu ar y stryd oherwydd, mewn llawer o achosion, mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn dweud wrthyf nad ydynt eisiau mynd i fannau penodol am na allant fod o gwmpas pobl sy'n cymryd cyffuriau neu'n yfed alcohol, neu mae pobl eisiau aros gyda'u cŵn, neu mae pobl eisiau mynd fel pâr. Felly, rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol fynd i'r afael â hyn yn eu cynlluniau gweithredu ar dai, y byddant yn eu cyflwyno i'r Llywodraeth cyn diwedd y mis.