Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fe siaradoch chi yn y gynhadledd Crisis yn ôl ym mis Mehefin ar roi diwedd ar ddigartrefedd, ac rwy'n siŵr eich bod wedi darllen yr adroddiad a gynhyrchwyd yn y digwyddiad hwnnw, sy'n amlinellu'r hyn y gellir ei wneud i roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae'n adroddiad cynhwysfawr iawn, gydag argymhellion ar gyfer yr holl Lywodraethau, gan gynnwys eich Llywodraeth chi. A allwch chi ddweud wrthym beth a ddysgoch o'r digwyddiad hwnnw ac o'r adroddiad, a sut y mae'n dylanwadu ar eich penderfyniadau?