Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:37, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae adroddiadau diweddar yn y wasg wedi dangos mai cyngor Caerdydd yw'r ail gyngor uchaf yn y DU gyfan mewn perthynas â chasglu dirwyon lonydd bysiau. Cafodd tua chwarter miliwn o yrwyr ddirwy mewn cyfnod o flwyddyn. Cyngor Glasgow yn unig a roddodd fwy o ddirwyon i yrwyr na Chaerdydd mewn gwirionedd. Nawr, rwy'n derbyn yr angen i lynu wrth y cyfyngiadau gyrru lleol, ond weithiau mae camgymeriadau diniwed yn digwydd am nad yw gyrwyr yn gyfarwydd ag ardal. Gyda chymaint o bobl yn cael dirwy, mae'r RAC yn dweud ei bod yn debygol fod pethau fel arwyddion a chynlluniau ffyrdd yn achosi problemau go iawn i yrwyr. A ydych yn credu bod perygl efallai fod cynghorau fel Caerdydd yn rhy barod i gosbi wrth gasglu dirwyon gan yrwyr am y mathau hyn o fân droseddau gyrru?