Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Ie, Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn cytuno'n gryf â hynny, ac yn y cyfnod hwn o gyni a achoswyd gan Lywodraeth y DU, mae'n fwy pwysig byth, rwy'n credu, ein bod yn canfod ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, ac o ddarparu mwy gyda llai yn aml, ond yn amlwg mae honno'n dipyn o her. Mewn perthynas â llywodraeth leol yn gweithio ar y cyd â sefydliadau partner allweddol eraill, tybed a allwch ddweud rhywbeth am brofiad cynnar y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac yn arbennig, sut y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn datblygu gwaith ar y cyd, ac yn fwy arbennig, sut y mae swyddogaeth gan Lywodraeth Cymru i nodi arferion da o fewn y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd rwy'n credu eu bod yn amrywio o un i'r llall—sut y gallai Llywodraeth Cymru nodi arferion gorau mewn byrddau gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod y gwersi hynny'n cael eu rhannu ledled Cymru.