Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch i chi, Weinidog. Ers rhai blynyddoedd bellach, ym Mhlaid Cymru, rydym wedi bod yn dadlau'r achos dros gael gwared ar angen blaenoriaethol yn raddol. Nawr, bythefnos yn ôl, mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, dywedasoch fod hynny'n destun adolygiad. Ond wrth gwrs, yn 2012 comisiynodd eich Llywodraeth chi Brifysgol Caerdydd i adolygu cyfraith digartrefedd, ac argymhellodd y dylem ddiddymu angen blaenoriaethol, argymhelliad a gymeradwywyd eleni gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, ac wrth gwrs, ceir yr argymhelliad hwn yn adroddiad Crisis. Felly, pam y mae eich Llywodraeth wedi gwrthod argymhellion yr adolygiadau hyn, ac wedi gofyn am un arall yn lle hynny?