Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 5 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:00, 5 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

—ac i greu ymagwedd gyfannol tuag at bolisi. Ar gais yr heddlu, rydym wedi creu bwrdd plismona i Gymru, a gyfarfu am y tro cyntaf fis diwethaf, ac rydym yn gweithio'n dda gyda'r heddlu. Rwyf wedi cyfarfod â'r Swyddfa Gartref ar nifer o achlysuron i fynd ar drywydd y materion hyn, ac rwyf wedi cyfarfod â Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i fynd ar drywydd y materion hyn yn ogystal. Rwyf o'r farn mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion rydym yn eu trafod y prynhawn yma yw mewn modd cyfannol yn y lle hwn. Dyna yw barn y Llywodraeth hon, a dyna fydd barn y Llywodraeth hon.