Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae ffyrdd newydd o weithio yn allweddol er mwyn cynnal ansawdd a chwmpas y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol sy'n wynebu cyfyngiadau cyllidebol. Mae hyn yn golygu bod angen mabwysiadu atebion arloesol, ynghyd â datblygu technoleg newydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen arweinyddiaeth gref o'r brig i'r bôn i allu cyflawni hyn, ac a fyddai'n cefnogi cael hyrwyddwr arloesedd cydnabyddedig ym mhob cyngor, gan fod syniadau newydd yn aml yn deillio o angerdd unigolion yn hytrach na mater o broses?