Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch Lywydd. A ninnau ar fin clywed yfory pwy fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru, mae'n amserol i ni fyfyrio ar berfformiad Llywodraeth Cymru o dan arweiniad y Prif Weinidog cyfredol—y llwyddiannau, y methiannau a'r gwersi ar gyfer y dyfodol. Mater i eraill fydd rhoi barn ar waddol y Prif Weinidog, ond heddiw rwyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar bolisi a'r bwlch cynyddol rhwng addewidion a chyflawniad.
Am wyth a hanner o naw mlynedd y Prif Weinidog, cafwyd Prif Weinidog Ceidwadol yn Stryd Downing, ac i'r Gweinidogion yma, mae'r demtasiwn i chwarae gwleidyddiaeth plaid wedi bod yn rhy gryf. Yn rhy aml, mae Prif Weinidog Cymru wedi chwarae rôl arweinydd yr wrthblaid i Lywodraeth y DU, yn hytrach na gweithredu fel arweinydd Llywodraeth yma yng Nghymru. Yn ymgyrch y Blaid Lafur ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2011, prin y cafodd meysydd datganoledig eu crybwyll, gan eu bod yn awyddus i fanteisio ar y lefelau isel o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynglŷn â beth oedd cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.
Nawr, wrth gwrs, byddai'n anfoesgar imi beidio â chydnabod bod yna rai llwyddiannau wedi bod dros y naw mlynedd ddiwethaf a rhai mannau lle y cafwyd cytundeb rhwng y pleidiau: mae'r cynllun i godi tâl o 5c am fagiau siopa, a gyflwynwyd gyda chefnogaeth drawsbleidiol, wedi helpu i newid ymddygiad siopwyr ac mae wedi lleihau nifer y bagiau siopa untro sydd mewn cylchrediad; cafodd y Mesur hawliau plant a'r system sgorio hylendid bwyd eu cyflwyno yn ystod y naw mlynedd diwethaf hefyd. Llwyddodd pob plaid i weithio gyda'i gilydd ar y refferendwm llwyddiannus i sicrhau mwy o bwerau deddfu i'r Cynulliad—penderfyniad a ddilynwyd gan ddatganoli treth, a rymusodd y Siambr hon i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer pobl Cymru. Mae'r llwyddiannau hynny, yn anffodus, wedi bod yn brin iawn.
Mae record Llywodraeth Cymru ers 2009, yn anffodus, yn un o fethiant a chyfleoedd a gollwyd, ac mae hynny'n arbennig o wir yn achos y gwasanaeth iechyd gwladol. Er iddo ymgyrchu ar sail maniffesto arweinyddiaeth a oedd yn addo diogelu gwariant ar iechyd, Carwyn Jones yw'r unig un o arweinwyr unrhyw blaid wleidyddol fodern yn y DU i orfodi toriadau mewn termau real i'r GIG. Yng nghyllideb gyntaf Carwyn Jones fel Prif Weinidog, cafwyd toriad o £0.5 biliwn i'r GIG yng Nghymru. Erbyn 2014, roedd y gyllideb iechyd bron 8 y cant ar ei cholled mewn termau real, sy'n cyfateb i £1 biliwn.
Nid yw'r GIG wedi gallu dod dros effaith toriadau'r Blaid Lafur i'r gyllideb o hyd. Heddiw, mae byrddau iechyd yn wynebu'r diffyg cyfunol uchaf erioed, sef £167.5 miliwn. Mae'r effaith ar amseroedd aros a safonau wedi bod yn drychinebus. Ym mis Rhagfyr 2009, nid oedd unrhyw glaf yng Nghymru yn aros am fwy na 36 wythnos rhwng diagnosis a dechrau triniaeth. Eto i gyd, mae'r ffigur hwnnw bellach yn 13,673 erbyn heddiw. O'r rhain, mae mwy na 4,000 o gleifion yn aros mwy na blwyddyn am lawdriniaeth ar hyn o bryd. Pan ddaeth Carwyn Jones i'w swydd, roedd 224,960 o gleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Mae'r ffigur hwnnw bellach wedi dyblu i 443,789 o gleifion.
Mewn naw mlynedd, ceir rhai targedau perfformiad allweddol nad ydynt wedi cael eu cyrraedd unwaith. Nid yw'r targed i sicrhau bod 95 y cant o gleifion adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld o fewn pedair awr wedi ei gyrraedd ers 2009, ac mae perfformiad yn gwaethygu. Ym mis Hydref eleni, 80 y cant yn unig a gafodd eu gweld o fewn pedair awr, ac yn Ysbyty Maelor Wrecsam, 54 y cant yn unig oedd y ffigur hwnnw—y gwaethaf erioed.
Yn frawychus, mae nifer y cleifion sy'n aros dros 12 awr i gael eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi codi 4,000 y cant ers 2009. Yn gynharach eleni, disgrifiodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys y sefyllfa yn adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru fel un 'enbyd' ac 'arswydus' a bod y profiad i gleifion 'yn anniogel, yn anurddasol ac yn ofidus'. Mae capasiti yn y GIG wedi crebachu gyda nifer y gwelyau'n gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn nes ei bod yn is nag erioed heddiw—2,000 yn llai o welyau nag yn 2009, ac mewn rhai byrddau iechyd, mae cyfradd gyfartalog defnydd gwelyau yn torri'r terfynau diogel ar sail ddyddiol. Mae'r dirywiad hwn ym mherfformiad y GIG wedi cyd-daro â phenderfyniadau Llywodraeth Cymru i barhau i israddio a chanoli gwasanaethau'r GIG, gan orfodi cleifion i deithio ymhellach am ofal hanfodol, a rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar wasanaethau a gedwir. Toriadau, cau ac israddio—dyna a welsom yn y GIG ers mis Rhagfyr 2009.
Nawr, yn ystod ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, ymrwymodd y Prif Weinidog i wario 1 y cant yn fwy na'r grant bloc ar addysg bob blwyddyn hyd nes y byddai'r bwlch ariannu fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei ddileu. Mae naw mlynedd wedi bod ers hynny ac mae'r bwlch ariannu'n dal i fodoli, ac mae'r gyllideb addysg 7.9 y cant yn llai mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2011. Yn y 10 mlynedd hyd at 2016, caewyd 157 o ysgolion, yn bennaf yng nghefn gwlad Cymru, ac ar draws y wlad heddiw, mae 40 y cant o ysgolion yn wynebu diffyg yn eu cyllideb. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar ysgolion yn Lloegr. Mae perfformiad TGAU wedi dirywio ers 2009, gyda'r safon aur o bum gradd A* i C yn gostwng eleni i'w lefel isaf ers 2005. Mae Cymru wedi mynd ar i lawr ym mhrofion Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gyda sgoriau gwaeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, gyda'r canlyniadau diweddaraf yn rhoi Cymru yn hanner gwaelod system raddio'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a hi yw'r wlad â'r sgôr isaf yn y DU. Mae targedau ac amserlenni i wella safle system addysg Cymru i gyd wedi cael eu hanghofio, eu diddymu a'u newid yn ddistaw bach i guddio'r methiannau.
O dan oruchwyliaeth y Prif Weinidog cyfredol, mae targed arall, i Gymru gyrraedd 90 y cant o werth ychwanegol gros cyfartalog y DU erbyn 2010, wedi cael ei anghofio. Cymru sydd â'r twf cyflog isaf o holl wledydd y DU o hyd. Mae cyfleoedd i greu'r amodau ar gyfer twf busnesau bach cynhenid a mwy o fewnfuddsoddi wedi cael eu colli wrth geisio rheoli a gor-drethu busnesau. Mae trefn ardrethi busnes Llywodraeth Cymru wedi arwain at y gyfradd uchaf yn y DU o siopau gwag ar y stryd fawr, gyda gormod o adeiladau gwag ac adeiladau wedi'u bordio. Bellach, Cymru yw'r rhan ddrutaf yn y DU ar gyfer gwneud busnes. Fodd bynnag, mae'n dda gweld, o'r sylwadau ddoe yn y ddadl ar y gyllideb, fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn gwrando ar ein galwadau am gamau gweithredu mewn perthynas â hyn. Serch hynny, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn dal i fethu cydnabod bod economïau treth isel yn fwy hyfyw, yn fwy cystadleuol, ac mewn gwirionedd, yn cynhyrchu mwy o refeniw oherwydd bod hynny'n ei gwneud hi'n haws sefydlu busnes. Dylai creu amodau i fusnesau allu ffynnu, a lle y caiff buddsoddwyr eu denu i ymsefydlu yng Nghymru, fod wedi cael llawer mwy o flaenoriaeth dros y naw mlynedd ddiwethaf, er mwyn ysgogi twf a chynyddu lefelau ffyniant.
Mae Llafur wedi methu darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n addas i'r diben, felly nid oes dewis amgen yn lle'r car o hyd. Ni allwn fesur llwyddiant neu fethiant y fasnachfraint newydd eto, ond mae'n deg dweud bod y dyddiau cynnar wedi bod yn simsan ar y gorau. Mae nifer o brosiectau ffyrdd mawr wedi cymryd mwy o amser nag y dylent o ganlyniad i din-droi gan Weinidogion, tra bod llawer o'r rhai a adeiladwyd wedi gweld gorwario enfawr, gan gynnwys y gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd.
Mae signalau ffonau symudol a seilwaith band eang annigonol yn parhau i fod yn broblem, o ganlyniad i gynnydd araf ar fynd i'r afael â mannau gwan.
Byddai creu'r amodau ar gyfer twf economaidd wedi helpu i fynd i'r afael â thlodi cylchol, sy'n dal i ddifetha gormod o'n cymunedau. Mae'r addewid blaengar i gael gwared ar dlodi plant wedi cael ei anghofio, tra bo tystiolaeth yn dangos na chafodd y cannoedd o filiynau o bunnoedd a arllwyswyd i mewn i Cymunedau yn Gyntaf unrhyw effaith ar lefelau ffyniant, ac ar ôl 20 mlynedd o Lafur, mae'r cymunedau hyn yn dal i fod mor dlawd ag erioed.
Mae'r Prif Weinidog cyfredol wedi sicrhau bod perchentyaeth y tu hwnt i gyrraedd llawer, ac wedi gwadu'r hawl i denantiaid tai cymdeithasol brynu eu heiddo. Mae adeiladu tai wedi cael ei gyfyngu gan fiwrocratiaeth, gan greu argyfwng cyflenwad tai sydd wedi codi prisiau a'i gwneud yn anos i bobl gamu ar yr ysgol eiddo. Yn anffodus, mae hon wedi bod yn Llywodraeth sydd wedi gwario biliynau ar drin symptomau tlodi yn hytrach na buddsoddi'n briodol yn yr agenda ataliol i sicrhau rhagolygon gwell i'r genhedlaeth nesaf na'r olaf. Mae'r naw mlynedd diwethaf wedi'u difetha gan gamreoli, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, heb sôn am sgandalau Cronfa Buddsoddi Adfywio Cymru a Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru gyfan, gan ddiffyg penderfyniad a diffyg gweithredu ynglŷn â diwygio ardrethi busnes, ffordd liniaru'r M4, a diffyg adeiladu tai, a phenderfyniadau gwael, torri cyllideb y GIG a diddymu'r hawl i brynu.
Er mwyn y 3 miliwn o bobl rydym yn eu gwasanaethu, mae angen syniadau gwreiddiol, ymagwedd ffres ac arweinyddiaeth newydd ar Gymru. Er fy mod yn dymuno'n dda i'r Prif Weinidog yn y dyfodol, rwy'n fwy argyhoeddedig nag erioed fod Cymru angen Llywodraeth newydd i gyflawni ei gwir botensial, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.