Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth at dactegau oedi Llywodraeth Cymru, eu hadolygiadau mynych yn hytrach na gweithredu, a chyfeiriodd at ddigartrefedd fel un enghraifft. Cyfeiriodd at Lywodraeth Cymru'n gosod targedau'n is nag yn Lloegr a'r Alban ac yna'n methu eu cyrraedd, ac am eu hamharodrwydd i ddysgu o arferion da mewn mannau eraill.
Clywsom gan Suzy Davies—dyma ni; cefais hyd i'r dudalen oedd ar goll—[Torri ar draws.] Mae pawb ohonom yn colli ein tudalennau weithiau, hyd yn oed aelodau o Lywodraeth Cymru. Clywsom gan Suzy Davies a ganolbwyntiodd ar sut y mae Llywodraeth Cymru'n gwario'r arian sydd ganddi i'w wario, yn hytrach na'r swm yn unig. Dywedodd eu bod yn cael 20 y cant yn fwy y pen i'w wario nag yn Lloegr ar hyn o bryd, ac eto maent yn gwario llai ar ddisgyblion ysgol, fod 45 o sefydliadau addysg yn destunau mesurau arbennig, y dull biwrocrataidd o godi safonau, a chyfeiriodd at Lafur Cymru fel llong sy'n suddo.
Cyfeiriodd Michelle Brown at Lywodraeth Cymru yn paentio darlun hyfryd i guddio'r gwirionedd, at agwedd elitaidd 'ni sy'n gwybod orau' Llywodraeth Cymru, at Lafur ond yn llwyddo i fod yn Llywodraeth drwy roi rolau i ddau Aelod Cynulliad nad ydynt yn aelodau Llafur, ac at amarch y Blaid Lafur tuag at yr etholwyr.
Nododd Mohammad Asghar nad oedd targedau perfformiad allweddol yn cael eu cyrraedd a bod perfformiad wedi dirywio mewn meysydd allweddol. A chyfeiriodd eto at fethiant Llywodraethau Cymru olynol i adeiladu cartrefi fforddiadwy a thai cyngor, nid dros bum neu 10 mlynedd, ond dros ddau ddegawd.
Os dof at Rhianon Passmore—a gaf fi ddiolch i Rhianon am beidio â rhoi araith swnllyd, er bod y cynnwys yn weddol debyg? Disgrifiodd ffeithiau fel diffygion, cyfeiriodd at gyni, felly gadewch i ni obeithio y tro nesaf y bydd Llywodraeth Lafur yn credu y gall dorri'r cylch economaidd, a gosod pwysau ar y rheoleiddwyr ariannol i beidio â bod yn rhy llawdrwm, y byddant yn cofio'r boen y mae hynny wedi'i hachosi i genedlaethau olynol. Cyfeiriodd at y cynnydd mewn cyflogaeth yng Nghymru ers 2010, pan ddaeth Llywodraeth y DU i rym wedi i Gymru fod ar ei hôl hi ers blynyddoedd lawer cyn hynny, a chyfeiriodd at wanhau'r rheoliadau ariannol. Wel, os darllenwch yr adroddiadau olynol yn dilyn y cwymp ariannol, fel y gwnes i, fe fyddwch yn gwybod bod y rheini'n nodi mai'r Meistri Blair, Brown a Balls oedd y dadreoleiddwyr ariannol mawr yr arweiniodd eu hymyrraeth wleidyddol—[Torri ar draws.]—darllenwch yr adroddiad—at gwymp y banciau, er iddynt gael eu rhybuddio flynyddoedd ymlaen llaw os na fyddent yn gweithredu, mai dyma fyddai'r canlyniad.
Soniodd Andrew R.T. Davies am golli cyfleoedd a disgyblion ond yn cael un cyfle, ac nad oes pwynt cael adeiladau newydd sbon os nad yw'r canlyniadau'n gwneud yn well. A soniodd nad oedd neb yn aros am 36 wythnos yn y GIG yn 2009, ac mae'r nifer sy'n gwneud hynny bellach yn y miloedd.
Rhoddodd arweinydd y tŷ, gan siarad ar ran Llywodraeth Cymru, yr hyn a swniai'n araith dda iawn ar gyfer cynhadledd Llafur Cymru, ond fe osgodd y dewisiadau gwleidyddol allweddol a gymerwyd dros bron 20 mlynedd o Lafur a Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur, sydd wedi arwain at y methiannau a ddisgrifiwyd yn y ddadl hon. Cyfeiriodd at y £850 miliwn yn fwy a fyddai gennym ar gyfer gwasanaethau rheng flaen pe na bai'r arian wedi diflannu a llinell gredyd y DU wedi bod dan fygythiad o gau yn 2010. Cyfeiriodd at ddiffyg cyfraniad ymddangosiadol Llywodraeth y DU i Gymru—wel, fe roesant y cyllid gwaelodol i'r fformiwla sy'n sicrhau bod Cymru yn cael mwy y pen nag yn Lloegr, fe roesant bron £0.75 biliwn i'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yng Nghymru—ac rydym yn dal i aros i glywed gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â gogledd Cymru—ac fe roesant £10 miliwn tuag at y prosiect cymwysiadau lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghaerdydd, £82 miliwn ar gyfer contract amddiffyn yn sir Ddinbych, ac maent yn pwmpio miliynau o bunnoedd i mewn i RAF Sealand, drwy leoli'r rhaglen F-35 yno.
Felly, gadewch inni edrych ar rai ystadegau ffeithiol yn yr amser sydd ar ôl gennym. O adroddiadau swyddogol diweddar, Cymru yw'r wlad leiaf cynhyrchiol yn y DU. Mae lefelau tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag mewn unrhyw wlad arall ym Mhrydain. Mae enillion canolrifol yr awr yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban. Mae enillion cyfartalog yng Nghymru yn is ac wedi tyfu'n arafach nag yng ngwledydd eraill y DU. Gan Gymru y mae'r twf cyflog hirdymor isaf o blith gwledydd y DU. Mae gan Gymru gyfradd tlodi incwm cymharol sy'n uwch nag yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, cyfran uwch o oedolion sy'n gweithio ac sy'n byw mewn tlodi nag unrhyw wlad arall yn y DU, a chyfradd tlodi pensiynwyr yng Nghymru sy'n llawer uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Mae Cymru'n dioddef yn sgil un o'r Llywodraethau gwaethaf a oddefwyd gan unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ers dyfodiad yr etholfraint gyffredinol. Nid yn unig hynny—un o'r Llywodraethau mwyaf adweithiol, a'i hunig weithgarwch yw adweithio yn erbyn Llywodraeth y DU a'i hunig bolisi yw beio Llywodraeth y DU am ei methiannau difrifol a chyson ei hun dros ormod lawer o amser, a megino fflamau'r dryswch ymysg y cyhoedd ynglŷn â'u cyfrifoldeb am y llanastr rydym ynddo ac ychwanegu at ddiffyg atebolrwydd cyhoeddus sydd wedi eu cadw yn eu lle ers cyhyd, a chymaint o boen.