Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Wel, pleser mawr yw dechrau drwy ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd mae wedi rhoi cyfle amserol inni fyfyrio ar, a dathlu cynnydd sylweddol Llywodraethau Llafur Cymru olynol—felly, Llywodraethau Llafur Cymru olynol a etholwyd gan bobl Cymru—yn ystod amser Carwyn Jones fel Prif Weinidog. Fel y mae ein gwelliant yn ei ddweud, dyma gyfle i ddiolch iddo am ei waith a'i arweiniad fel Prif Weinidog, Prif Weinidog y bûm yn falch iawn o'i wasanaethu.
Am naw mlynedd, mae'r Prif Weinidog wedi arwain Llywodraeth Cymru drwy rai o'r adegau mwyaf anodd y mae'r wlad hon a'r DU gyfan yn wir wedi eu profi ers diwedd yr ail ryfel byd: adegau anodd y byddai'r Ceidwadwyr yn awyddus iawn inni beidio â rhoi sylw iddynt byth eto. Yn ystod y naw mlynedd, gwelwyd dirwasgiad byd-eang, wedi'i ddilyn gan y cyfnod hwyaf o gyni o fewn cof, a gadewch inni beidio ag anghofio fod rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi wedi disgrifio'r cyni hwnnw y mis diwethaf fel dewis gwleidyddol gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
A Brexit a gafodd y prif sylw dros flynyddoedd olaf deiliadaeth y Prif Weinidog hwn, ffrae gathod ddiarhebol y Blaid Geidwadol, heb sôn am y llanastr a achoswyd gan negodiadau fflip-fflop Prif Weinidog y DU a'r aelodau o'r Blaid Dorïaidd a ddisgrifiwyd gan aelod o gylch mewnol David Cameron unwaith fel 'hurtynnod llygatgroes'. Trechwyd y Llywodraeth deirgwaith yn y Senedd ddoe: nid rhywbeth i ymfalchïo ynddo.
Ddirprwy Lywydd, drwy hyn oll, mae Llywodraethau olynol o dan arweiniad Llafur Cymru wedi cynnal eu hymrwymiad i weithio tuag at Gymru fwy ffyniannus ac wedi cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Ddoe, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid unwaith eto yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft yr effaith y mae cyni wedi ei chael ar ein cyllideb. Mae'n werth ei ailadrodd heddiw.