Enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 12 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:35, 12 Rhagfyr 2018

Dyma ganlyniad y bleidlais, felly: Mark Drakeford 30 pleidlais, Paul Davies 12 pleidlais, Adam Price naw pleidlais, a phump yn ymatal. Gan ei fod wedi derbyn dros hanner y pleidleisiau a fwriwyd, rwy'n datgan bod Mark Drakeford wedi ei enwebu yn Brif Weinidog y Senedd yma. Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf yn argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog. Rwy'n gwahodd Mark Drakeford i annerch y Siambr. Mark Drakeford. [Cymeradwyaeth.]