Enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 12 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 12 Rhagfyr 2018

Unrhyw enwebiadau eraill? Nac oes. Gan fod yna dri enwebiad, felly, byddaf yn cynnal pleidlais drwy alw'r gofrestr, ac yn gwahodd pob Aelod sy'n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod yn nhrefn yr wyddor. Dywedwch enw'r ymgeisydd yr ydych yn ei gefnogi'n glir pan gewch chi eich galw, neu dywedwch yn glir eich bod yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniateir i'r Dirprwy Lywydd nac i finnau bleidleisio. Dyma ni, felly, y rhestr enwau, a'r enw cyntaf, Mick Antoniw.