Part of the debate – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi fy enwebiad yma y prynhawn yma? A dylid rhoi diolch arbennig, wrth gwrs, i fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, am roi fy enw gerbron y Cynulliad, ac am y cymorth y mae wedi'i gynnig mor gyson dros nifer o flynyddoedd, ond yn enwedig dros yr ychydig ddyddiau diwethaf wrth i bethau newid.
Fel y gŵyr pob un ohonoch o'r trafodion ddoe, mae arwain plaid wleidyddol yma yng Nghymru yn fraint aruthrol, ac mae cael eich enwebu a'ch ethol yn Brif Weinidog yn y Cynulliad Cenedlaethol hyd yn oed yn fwy o fraint. Rwy'n gwbl ymwybodol o'r cyfle a'r cyfrifoldeb a ddaw law yn llaw â'r swydd hon. Ac yn y cyd-destun hwnnw, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau, ym mhob rhan o'r Siambr, am eu haelioni ers dydd Iau yr wythnos diwethaf? Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am yr holl negeseuon a gefais.
Heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn gwbl briodol, mae'r pleidiau wedi cynnig eu henwebiadau ar gyfer swydd y Prif Weinidog, ac rydym wedi cynnal y broses ddemocrataidd hanfodol honno—etholiad. Yn y nifer o etholiadau rwyf wedi cymryd rhan ynddynt, mae pawb sydd wedi cymryd rhan ynddynt, bron â bod, yn gwneud hynny oherwydd y cyfraniad y maent yn awyddus i'w wneud i wasanaeth cyhoeddus Cymru, ac yn sicr, mae pawb sydd wedi cael eu henwebu heddiw yn byw yn y traddodiad allweddol hwnnw.
Ddirprwy Lywydd, pan gefais fy ethol yn arweinydd y Blaid Lafur yr wythnos diwethaf, dywedais fod mod yn awyddus i fod yn fflam o obaith mewn byd sy'n tywyllu. Nid heddiw yw'r adeg ar gyfer sylwadau pleidiol, ond mae'r awyr o'n hamgylch wedi tywyllu mwy byth yn y dyddiau ers hynny. Mae rhyw fath o wallgofrwydd wedi amharu ar y Blaid Geidwadol, ac ymddengys bod nifer sylweddol o'i Haelodau Seneddol o'r farn mai'r ffordd orau o sicrhau dyfodol ein gwlad yw drwy daflu her i'r arweinyddiaeth ar y goelcerth sydd ohoni yn sgil Brexit. Rwy'n credu o ddifrif, Ddirprwy Lywydd, fod pethau yma, mewn sefydliad mwy newydd a gwahanol iawn, yn cael eu gwneud mewn ffordd wahanol, a bron bob amser, fod pethau'n cael eu gwneud yn well.
Ddoe, buom yn sôn cryn dipyn am ddosbarth 1999. A bydd y rhai ohonom a oedd, mewn gwahanol ffyrdd, yn rhan o bethau yma ers dyddiau cynnar y Cynulliad Cenedlaethol, yn cofio mai'r bwriad oedd i hwnnw hefyd fod yn fflam o obaith yng Nghymru, yn fan lle y gellid anghofio'r hen ffyrdd gwrthbrofedig o wneud gwleidyddiaeth, a datblygu rysáit gwahanol, lle byddai'r pethau rydym yn cytuno arnynt yr un mor bwysig â'r pethau rydym yn anghytuno arnynt, a lle byddai'r materion sy'n uno ein gwlad yn cael rhywfaint o flaenoriaeth dros y materion sy'n bygwth ein rhannu. Nawr, nid wyf yn sôn am wleidyddiaeth heb angerdd neu gredoau sylfaenol. Rwy'n credu mewn gwleidyddiaeth sy'n ymroddedig ac sy'n cael ei llywio gan y math o gymdeithas rydym yn awyddus i helpu i'w chreu—amrywiaeth, undod, cymuned a chydraddoldeb—ar yr ochr hon i'r Siambr, ond lle rydym yn cyflawni'r wleidyddiaeth honno â pharch a ffocws ar yr hyn sy'n gyffredin rhyngom, lle rydym yn cydnabod bod y ffordd rydym yn ymddwyn yn gwneud gwahaniaeth mewn byd toredig ac ansicr—math mwy caredig o wleidyddiaeth.