Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Mae'r farchnad fasnachol mewn cathod bach ychydig yn wahanol i'r fasnach gŵn bach. Mae mwyafrif helaeth y gwerthiannau trydydd parti o gathod bach yn digwydd o siopau anifeiliaid anwes ffisegol ar y stryd fawr. Nid yw bridio cathod, yn wahanol i fridio cŵn, wedi'i reoleiddio, a gall siopau anifeiliaid anwes fod yn amgylchedd amhriodol ar gyfer cathod bach. Nid yw cathod ifanc a werthir mewn siopau anifeiliaid anwes bob amser yn cael digon o le, amgylchedd priodol na chorlan wedi'i chynllunio'n briodol, tymheredd cyfforddus, nac yn cael gofal milfeddygol angenrheidiol a phrofiadau cyfoethogi.
Fel bron bob agwedd arall ar fywyd modern, mae'r rhyngrwyd mewn llawer o ffyrdd wedi hybu'r fasnach erchyll hon, ac wedi dod yn ffenestr siop a ddewisir ar gyfer hysbysebu anifeiliaid anwes ifanc i gael cartref newydd gan ddarpar berchnogion. Yn 2017 yn unig, postiwyd bron 35,000 o hysbysebion ar gyfer cŵn a chathod, ac felly gall masnachwyr heb drwydded, ac felly, heb eu harolygu, werthu cŵn a chathod bach ac anifeiliaid eraill heb unrhyw archwiliadau. Mae ymgyrch cyfraith Lucy wedi bod yn lobïo gwleidyddion o bob lliw yn egnïol i weithredu gwaharddiad, ac mae'n anelu i fynd beth o'r ffordd tuag at ddileu marchnad sy'n dibynnu ar ffermydd cŵn bach, ac yn cael eu cynnal ganddynt, ar draws y DU, Iwerddon ac Ewrop. Byddai gwaharddiad o'r fath yn helpu i ddileu'r niwed corfforol a seicolegol anochel a achosir drwy werthu cŵn a chathod bach i fannau sydd gannoedd o filltiroedd o'r man geni. Byddai gwaharddiad ar werthiannau masnachol trydydd parti yn gyfystyr â gofyniad cyfreithiol mai bridwyr yn unig a allai werthu cŵn bach fel busnes. Ni fyddai'n effeithio ar weithgareddau nad ydynt yn rhai masnachol, gan gynnwys ailgartrefu cŵn a chathod bach drwy elusennau a llochesi, gan na wneir hynny er elw. Ni fyddai dim yn newid yno.
Ac fel Ceidwadwr, roeddwn yn falch iawn o weld Llywodraeth y DU yn arwain ar hyn wrth gwrs, yn gyntaf ym mis Chwefror gyda'i galwad gyntaf am dystiolaeth, ac yn ail ym mis Awst, pan gyhoeddodd Michael Gove ymgynghoriad ar y gwaharddiad arfaethedig ar werthu cŵn a chathod bach yn fasnachol drwy drydydd parti. Yn amlwg, gyda lles anifeiliaid wedi'i ddatganoli fel cyfrifoldeb i'r sefydliad hwn, cyhoeddiad a oedd yn ymwneud â Lloegr yn unig oedd hwn, ac mae'n hanfodol fod Cymru'n dilyn eu hesiampl. Felly, roeddwn yn falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo wythnos neu ddwy yn ôl i lansio ymgynghoriad tebyg. Roedd yn gam i'w groesawu ac mae'n hanfodol ein bod yn bwrw ymlaen â hyn, gan fod lles anifeiliaid yn un o'r materion sy'n codi ei ben yn barhaus ym mlychau post yr Aelodau. Yn wir, prin fod cyfnod yn y flwyddyn pan nad oes rhyw broblem sylweddol yn ymwneud â lles anifeiliaid wedi dal dychymyg y cyhoedd, ac fel sefydliad, rydym yn awr mewn man lle gallwn weithredu ar y pryderon hynny a mynd i'r afael â hwy drwy weithredu deddfwriaeth.
Mae'r Cynulliad, a Llywodraeth Cymru yn ei thro, bellach yn arfer amrywiaeth eang o gyfrifoldebau a phwerau mewn perthynas â deddfwriaeth a rheoliadau yn y maes hwn, ac yn enwedig pan fyddwch yn ei gymharu â lle'r oeddem 20 mlynedd yn ôl. Fel Cynulliad, ac fel Llywodraeth, mae'n hollbwysig fod Cymru'n manteisio ar y dulliau hyn ac yn eu defnyddio'n effeithlon, yn rhagweithiol ac yn ddychmygus i sicrhau bod ein henw da fel cenedl sy'n malio am anifeiliaid yn cael ei ddiogelu. Oherwydd gadewch inni fod yn onest—mae gennym broblem gyda gweithgareddau megis ffermio cŵn bach yma yng Nghymru. Yn wir, mae gwaharddiad ar weithgarwch gwrthun o'r fath yn gwneud synnwyr perffaith o safbwynt diogelu anifeiliaid, a byddai'n welliant amlwg ar y sefyllfa bresennol, gyda llawer mwy o bobl a grwpiau'n gallu gorfodi gwaharddiad—nid awdurdodau lleol yn unig, ond yr RSPCA a'r heddlu hefyd. Mae nifer o grwpiau anifeiliaid, megis yr Ymddiriedolaeth Cŵn a Diogelu Cathod yn cefnogi gwaharddiad, a dylai fod yn llawer haws ac yn llawer rhatach na system drwyddedu wedi'i thagu gan fiwrocratiaeth a diffyg adnoddau.
Mae gwrthwynebwyr y dull hwn o weithredu yn aml yn cyfeirio at y gred y byddai'r gwaharddiad yn gorfodi'r fasnach i fynd yn danddaearol, ond rhaid imi ddweud mai ffolineb yw hynny. Mae'r syniad y byddai darpar berchnogion anifeiliaid anwes cariadus yn mynd ati i chwilota drwy'r we dywyll yn hynod o anhebygol, ac mewn byd cwbl wahanol i'r cymariaethau a wneir ag unigolion sy'n chwilio am ynnau, cyffuriau neu arfau ar y we dywyll ddofn. Yn fy marn i, mae gwaharddiad yn gam cyntaf hanfodol tuag at roi diwedd ar yr arfer hwn o ffermio cŵn neu gathod bach am elw, gyda fawr o sylw, os o gwbl, i'w lles neu eu haddasrwydd i fod yn anifeiliaid anwes i deuluoedd. Mae straen, risg gynyddol o glefyd, arferion bridio gwael a thactegau gwerthu anghyfrifol oll yn gysylltiedig â dulliau gwerthu trydydd parti. A chadarnhawyd wrthyf pa mor bwysig yw rhoi camau o'r fath ar waith ar ymweliad diweddar â Cartref Cŵn Caerdydd. Mae'n gartref cŵn sydd wedi ennill gwobrau wrth gwrs, ond ni allwch help ond cael eich cyffwrdd gan wynebau'r anifeiliaid sydd eisiau cwmnïaeth a chartref cariadus. Yn wir, ar yr ymweliad hwnnw, cefais wybod y ceir oddeutu 9 miliwn o gŵn ledled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd—mwy na digon i ddiwallu'r galw. Nid oes angen y gweithgarwch masnachol ychwanegol hwn o gwbl.
Ac i gloi, i mi, mae'n hanfodol gweithredu cyfraith Lucy yng Nghymru os ydym yn mynd i oresgyn y niwed a wnaed i enw da Cymru, sy'n parhau i gael ei chydnabod fel canolbwynt ffermio cŵn bach yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n anghywir, ac mae'n straen annerbyniol ar ein cenedl wych o bobl sy'n caru anifeiliaid.
Bydd gwaharddiad ar werthiannau trydydd parti yn sicrhau bod anifeiliaid anwes annwyl y wlad yn cael y dechrau iawn mewn bywyd ac na fydd modd i bobl sy'n diystyru lles anifeiliaid anwes yn llwyr elwa o'r fasnach ddiflas hon mwyach. Rwy'n talu teyrnged i ymgyrch cyfraith Lucy, dan arweiniad Pup Aid, C.A.R.I.A.D. a'r grŵp gweithredu ar gŵn—Canine Action UK—sydd wedi ymladd mor ddiflino yn yr ymgyrch hon.
Dylai Cymru arwain y ffordd mewn perthynas â lles anifeiliaid. Nid oes dim i'n hatal rhag bod yn genedl fwyaf cyfeillgar y byd tuag at anifeiliaid. Ac fel cam cyntaf yn y crwsâd hwn, rwy'n erfyn ar bob Aelod i gefnogi'r ymgyrch ardderchog a gwerthfawr hon.