Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch yn fawr, Gadeirydd. Diolch i Andrew R.T. Davies am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw, ac i Bethan Sayed ac Angela Burns am siarad hefyd. Fel y cyfeiriodd Andrew, rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ar y mater hwn yn gynnar yn y flwyddyn newydd, oherwydd credaf fod pob un o'r tri siaradwr yn hollol gywir, mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei wneud.
Hoffwn egluro y bydd yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â gwerthiannau trydydd parti o gŵn a chathod bach. Andrew, soniasoch am fridio yn nheitl y ddadl, ond ni fyddai'r rhai sy'n bridio'r anifeiliaid yn werthwyr neu'n fasnachwyr trydydd parti, bridwyr fyddent, ac mae'n bwysig iawn egluro'r pwynt hwnnw. Credaf fod y ffaith bod y teitl ychydig yn anghywir yn tynnu sylw at gymhlethdodau gwirioneddol y mater hwn. 'Cymru i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan werthwyr trydydd parti masnachol'—credaf fod hynny'n swnio'n wych, ond mae cymaint o ffactorau i'w hystyried yn y broses hon. Byddai'n ffôl mynd ar drywydd yr un pennawd hwnnw, oherwydd rwy'n credu y gallwn wneud yn well yma yng Nghymru.
Nid oes dim yn atal symud anifeiliaid anwes a fagwyd yng Nghymru i rannau eraill o'r DU ac i'r gwrthwyneb. Felly, pe baem yn edrych ar un cam yn y gadwyn yn unig, rwy'n credu y byddem yn colli cyfle mewn gwirionedd i sicrhau newid parhaol ac effeithiol iawn. Rhaid inni hefyd sicrhau na pheryglir lles anifeiliaid mewn sefydliadau bridio o ganlyniad i unrhyw newidiadau da eu bwriad. Mae'r broses ymgynghori yn gwbl allweddol i hyn, ac nid wyf am achub y blaen ar ei chanlyniadau drwy drafod manylion hynny heddiw. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ac yn gofyn am dystiolaeth i'n helpu i greu darlun llawn o gadwyn gyflenwi cŵn a chathod bach, lle ceir pryderon o ran lles yn y gadwyn, a hefyd sut y gallai newid polisi neu ddeddfwriaeth ddatrys y pryderon hynny.
Felly, fel rwy'n dweud, nid wyf am ddyfalu i ba gyfeiriad y bydd y broses ymgynghori yn ein harwain. Nid wyf am ddiystyru unrhyw opsiynau sydd ar gael i ni, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fy mod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n gysylltiedig â gwerthiannau trydydd parti. Rwy'n ymrwymedig i hyn a gallaf ddweud heddiw y caiff yr ymgynghoriad 12 wythnos ei lansio ar 22 Chwefror, i sicrhau pob Aelod mai dyna y byddwn yn ei wneud. Rwy'n annog yr Aelodau o ddifrif i sicrhau bod eu hetholwyr yn cyflwyno eu hymatebion i'r ymgynghoriad.
Fel Llywodraeth, rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau a mudiadau lles, felly rwy'n meddwl o ddifrif eich bod yn gwthio wrth ddrws agored. Fel y dywedoch chi, Andrew, rydym wedi gweld lobïo trawsbleidiol ar hyn. Roeddwn yn falch iawn o siarad mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Eluned Morgan ynglŷn â chyfraith Lucy yn gynharach eleni. Credaf eich bod yn gywir, gallwn wneud yn well na hyn, mae'r bag post iechyd a lles anifeiliaid yn un sydd bob amser yn llawn i ni fel ACau, ar nifer o bynciau gwahanol. Felly, byddwn yn lansio'r ymgynghoriad, fel rwy'n dweud, ar 22 Chwefror, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gyflwyno gwaharddiad, gobeithio—nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad, ond rwy'n cytuno ei fod yn rhywbeth y mae angen inni fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch yma yng Nghymru.