Part of 1. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Roeddwn yn falch o gyhoeddi enwau Aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru’r wythnos diwethaf—achlysur arbennig iawn. Ac rydw i eisiau cymryd y cyfle i ddiolch i’r cannoedd o ymgeiswyr—dros 450 ohonynt—a wnaeth sefyll i gael eu hethol, ac i’r miloedd o bobl ifanc a wnaeth gofrestru a phleidleisio mewn ymgyrch a oedd heb os yn llwyddiannus dros ben. A phob dymuniad da i’r 60 Aelod newydd.